Cyhoeddi ymgeiswyr Senedd 2026

Cyhoeddi ymgeiswyr Senedd 2026

Plaid Cymru yn cyhoeddi ymgeiswyr ar gyfer Sir Fynwy Torfaen yn Etholiadau’r Senedd sydd ar ddod 

Yn dilyn buddugoliaeth hanesyddol yn isetholiad Caerffili, mae Plaid Cymru heddiw wedi cyhoeddi ei rhestr o ymgeiswyr ar gyfer Etholiadau’r Senedd 2026 yn etholaeth newydd Sir Fynwy Torfaen, gan gyflwyno tîm amrywiol a phrofiadol sy’n ymrwymedig i sicrhau Cymru decach, wyrddach a mwy llewyrchus. 

Mae polau piniwn cyson yn dangos bod Plaid Cymru ar y blaen yng Nghymru ar gyfer yr etholiad sydd ar ddod, gyda Llafur yn syrthio ymhellach yn ôl i drydydd, a Reform yn ail. Cafwyd cadarnhad o hyn yn yr isetholiad diweddar lle pleidleisiodd 47.4% o bobl dros Blaid Cymru, Reform ar 36% a Llafur ar 11%. 

Ar frig y rhestr mae Matthew Jones, gweithiwr achos ac ymgyrchydd profiadol sy’n deall yr heriau sy’n wynebu cymunedau ar draws yr etholaeth newydd. Ganwyd a magwyd Matthew ym Mhont-y-pŵl ac erbyn hyn mae’n byw yng Nghwmbrân. Mae’n swyddog polisi i elusen ganser yng Nghaerdydd. Mae Matthew yn gobeithio dod â dull gwleidyddol i’r Senedd sy’n cael ei arwain gan y gymuned ac sy’n canolbwyntio ar bobl, ac mae’n awyddus i ddefnyddio pob cyfle i dyfu buddsoddiad lleol a chyfleoedd i bobl ifanc adeiladu eu bywydau yn ein hardal. 

Yr ail ar y rhestr yw Donna Cushing. Mae Donna wedi gweithio ar draws de-ddwyrain Cymru ac yn dod â chyfoeth o wybodaeth o’i gwaith ieuenctid, ei phrofiad mewn llywodraeth leol ac ymgyrchu dros hawliau anabledd. Mae ganddi hanes cryf o sefyll dros deuluoedd sy’n gweithio ac mae wedi bod yn Gynghorydd Sir yng Nghaerffili. 

Y trydydd ar y rhestr yw Dave Johnson. Ganwyd a magwyd Dave ym Mhontypridd ac mae bellach yn byw yng Nghas-gwent. Mae Dave wedi gweithio i Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, mewn llywodraeth leol, yn y sector treftadaeth ac i elusen amgylcheddol cyn dod yn ddarlithydd cynllunio trefol ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste am flynyddoedd lawer cyn ymddeol. Mae Dave hefyd wedi bod yn Gynghorydd Sir, Dinas a Phlwyf am 18 mlynedd. 

Y pedwerydd ar y rhestr yw Loti Glyn, ymgyrchydd o’r Fenni sy’n ymroddedig i roi gryn yn ôl yn nwylo cymunedau. Mae rhoi anghenion pobl ifanc wrth galon gwleidyddiaeth Cymru yn un o brif nodau Loti, ac mae wedi gweithio ar ymgyrchoedd i annog pobl ifanc i ddefnyddio eu llais mewn gwleidyddiaeth. 

Wrth siarad am y cyhoeddiad, dywedodd Matthew Jones: 

“Mae’n anrhydedd gwirioneddol arwain tîm Plaid Cymru i’r etholiad hwn – gyda phob un ohonom yn ymrwymedig i wella bywydau ar draws Sir Fynwy Torfaen. 

“Mae Plaid Cymru yn cynnig Cymru iachach, cyfoethocach, a gwyrddach i bob person a chymuned yn Sir Fynwy a Thorfaen, ac mae mwy a mwy o bobl yn troi at Blaid Cymru – gan ddisodli Llafur a gwrthod Reform UK. 

“Y flwyddyn nesaf gallwn gael Llywodraeth Cymru sy’n credu yn Nghymru o’r diwedd, ac sy’n sefyll dros Gymru, drwy bleidleisio dros Blaid Cymru.” 

Wrth groesawu cyhoeddiad yr ymgeiswyr, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: 

“Mae Sir Fynwy Torfaen yn haeddu cynrychiolwyr a fydd yn ymladd dros fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus lleol ac yn mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw. 

“Fel y gwelsom yn isetholiad diweddar Caerffili, gall pobl ar draws Sir Fynwy a Thorfaen ddewis gobaith dros raniad, a chynnydd dros y status quo blinedig, gan gefnogi gweledigaeth gadarnhaol Plaid Cymru dros Gymru. 

“Mae Llafur wedi bod mewn grym am 26 mlynedd, ond maen nhw’n methu ar bob metrig. Mae’n amser am lywodraeth Plaid Cymru, gyda syniadau newydd a gweledigaeth feiddgar i gyflawni’r newid cadarnhaol y mae Cymru ei angen. 

“Drwy bleidleisio dros Blaid Cymru, a’r tîm cryf a phrofiadol hwn, bydd pob cymuned yn Sir Fynwy Torfaen yn cael llais yn y Senedd. Mae Cymru’n barod am arweinyddiaeth newydd, ac mae Plaid Cymru yn arwain y ffordd.”