
Dewch i adnabod tîm ymgeiswyr Sir Fynwy Torfaen
Bydd etholiad y Senedd yn 2026 yn gyfle na fu gennym erioed o’r blaen i gael Llywodraeth Cymru newydd sbon nad yw’n cael ei harwain gan Lafur am y tro cyntaf erioed.
O dan y system etholiadol gyfrannol, mae’r polau diweddaraf yn dangos bod Plaid Cymru yn y ras i arwain Llywodraeth Cymru, ac rydym yn gallu ennill ym mhob rhan o Gymru – gan gynnwys yma yn ein hetholaeth newydd. Dim ond gyda’ch cefnogaeth y gallwn cyflawni hyn.
Hyd yma, mae aelodau lleol Plaid Cymru wedi llunio rhestr fer o 4 ymgeisydd i sefyll yn etholiad y Senedd yn 2026: Matthew Jones, Donna Cushing, David Johnson a Loti Glyn.
#1 Matthew Jones
Cafodd Matthew ei eni a’i fagu ym Mhont-y-pŵl, ac mae’n byw yng Nghwmbrân. Mae’n weithiwr achos profiadol, ar ôl gweithio i Elin Jones AS am bum mlynedd, gan gynnwys yn ystod pandemig Covid-19.
Erbyn hyn, mae Matthew yn gweithio i elusen ganser ac mae wedi ymrwymo i alluogi’r Gwasanaeth Iechyd i wella amseroedd aros a chanlyniadau, yn enwedig ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Mae’n frwd dros sicrhau cyllid teg i Gymru, gwella gwasanaethau cyhoeddus, ac mae’n benderfynol o fod yn newid cadarnhaol yn ei ardal.
Facebook: /MatthewTorfaen
X (Twitter): @MatthewTorfaen
TikTok: @matthewplaid
#2 Donna Cushing
Mae Donna Cushing wedi gweithio ar draws de-ddwyrain Cymru ym maes llywodraeth leol ac wedi ymgyrchu dros hawliau pobl anabl. Mae hi'n dod â chyfoeth o wybodaeth i'r rôl fel ymgeisydd. Mae gan Donna hanes cryf o ymgyrchu a sefyll dros deuluoedd, gan gynnwys ei gwaith fel Cynghorydd Sir yng Nghaerffili ac fel ymgeisydd ar gyfer swydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer rhanbarth Heddlu Gwent.
Roedd tad Donna yn löwr, ac roedd ei mam – a oedd yn gefnither i Aneurin Bevan – yn rhedeg ei busnes ei hun. Mae gyrfa Donna wedi cynnwys gweithio i fudiadau gwirfoddol ac anableddau, ac mae hi wedi bod yn allweddol wrth sefydlu prosiect nos Wener i bobl ifanc yng Nghaerffili, gyda'r nod o fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
#3 David Johnson
Cafodd Dave Johnson ei eni a’i fagu ym Mhontypridd, ac mae bellach yn byw yng Nghas-gwent. Mae Dave wedi gweithio i’r Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr, mewn llywodraeth leol, yn y sector treftadaeth ac i elusen amgylcheddol, cyn dod yn ddarlithydd cynllunio tref ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste, lle bu’n dysgu am flynyddoedd lawer cyn ymddeol.
Mae Dave hefyd wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Sir, Dinas a Phlwyf ers 18 mlynedd, gan ddod â phrofiad sylweddol o lywodraeth leol i’r rôl.
#4 Loti Glyn
Mae Loti Glyn yn ymgyrchydd o’r Fenni sy’n ymroddedig i rymuso cymunedol. Mae rhoi anghenion pobl ifanc wrth wraidd gwleidyddiaeth Cymru yn un o’i phrif nodau, ac mae hi wedi gweithio ar ymgyrchoedd sy’n annog pobl ifanc i ddefnyddio eu llais mewn gwleidyddiaeth.



